|
||
|
|
||
|
||
|
Vigilance warning as rogue traders operate in South Wales |
||
|
Vigilance warning as rogue traders operate in south Wales
We've had reports of rogue traders operating in our area, offering work and using a variety of clever tactics to pressurise you into buying something you don’t want or need, or that’s poor value for money. These frauds can include overpriced or substandard home maintenance or improvements, and, in some local cases, groups of traders have pulled down existing guttering, before offering their services – for a fee – to fix it. And there have been reports of these rogue traders sending their victim to the bank, or even taking them there themselves, to get payment for their ‘work’. Please be alert to the dangers of people going door to door offering work such as paving, guttering, gardening, tree cutting, or all sorts of other labour. You should never travel with anyone you don’t know to a bank or ATM to withdraw money, or similarly anywhere else for any other form of payment. If you’re approached by someone you suspect may be a rogue trader, check their credentials, including a permanent business address and landline telephone number. The mobile phone numbers given on business cards are often pay-as-you-go numbers which are virtually impossible to trace. However, please remember that rogue traders may try to provide false identity or contact information. And if you pay them in advance, you won’t get your money back. It's also always worth being wary of opening your door to a potential burglar or someone who wants to get inside your property to enable other people to break in. Once they get through your door, fraudulent salespeople can take note of your valuables and any security measures you have in place. If you’ve been a victim of bogus or rogue traders, report it to police or to Action Fraud. You can also report the salesperson to Citizens Advice on 0808 223 1133, or to the National Trading Standards if you believe they've sold you faulty, inferior or overpriced products or services. Our advice: If you do decide to buy:
Rhybudd i fod yn wyliadwrus o dwyll fasnachwyr yn ne Cymru
Rydym wedi cael adroddiadau o dwyll fasnachwyr yn gweithredu yn ein hardal, yn cynnig gwaith ac yn defnyddio amrywiaeth o dactegau clyfar i roi pwysau arnoch i brynu rhywbeth nad ydych ei eisiau neu ei angen, neu sy'n werth gwael am arian. Gall yr achosion hyn o dwyll gynnwys gwaith cynnal a chadw neu welliannau i’r cartref sy’n rhy ddrud neu’n is na’r safon, ac, mewn rhai achosion lleol, mae grwpiau o fasnachwyr wedi tynnu gwteri sy’n bodoli eisoes, cyn cynnig eu gwasanaethau – am ffi – i'w trwsio. Ac mae adroddiadau wedi bod o'r twyll fasnachwyr hyn yn anfon eu dioddefwr i'r banc, neu hyd yn oed yn mynd â nhw yno eu hunain, i gael taliad am eu 'gwaith'. Byddwch yn wyliadwrus o beryglon pobl yn mynd o ddrws i ddrws i gynnig gwaith fel palmantu, gosod gwteri, garddio, torri coed, neu bob math o lafur arall. Ni ddylech byth deithio gydag unrhyw un nad ydych yn ei adnabod i fanc neu beiriant arian parod i dynnu arian, neu yn yr un modd i unrhyw le arall ar gyfer unrhyw fath arall o daliad. Os oes rhywun yn cysylltu â chi ac rydych yn amau y gallai fod yn dwyll fasnachwr, gwiriwch pwy ydyn nhw, gan gynnwys cyfeiriad busnes parhaol a rhif ffôn llinell dir. Mae'r rhifau ffôn symudol a roddir ar gardiau busnes yn aml yn rhifau ‘talu wrth fynd’ sydd bron yn amhosibl eu holrhain. Fodd bynnag, cofiwch y gall twyll fasnachwyr geisio darparu hunaniaeth neu fanylion cyswllt ffug. Ac os ydych yn eu talu ymlaen llaw, ni fyddwch yn cael eich arian yn ôl. Mae hefyd bob amser yn werth bod yn wyliadwrus y byddwch yn agor eich drws i ddarpar ladron neu rywun sydd eisiau mynd i mewn i'ch eiddo i alluogi pobl eraill i dorri i mewn. Unwaith y byddant yn mynd trwy'ch drws, gall gwerthwyr twyllodrus edrych am bethau gwerthfawr ac unrhyw fesurau diogelwch sydd gennych ar waith. Os ydych wedi bod yn ddioddefwr masnachwyr ffug neu dwyll fasnachwyr, rhowch wybod i'r heddlu neu i Action Fraud. Gallwch hefyd roi gwybod am y gwerthwr i Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu i’r Safonau Masnach Cenedlaethol os ydych yn credu eu bod wedi gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau diffygiol, israddol neu rhy ddrud i chi.
Ein cyngor: Os ydych yn penderfynu prynu:
| ||
Reply to this message | ||
|
|



