{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Ticket Fraud / Twyll Tocynnau.


🚨 Watch out for ticket fraud ahead of top events and concerts this summer 🚨

 

Total combined losses to this type of fraud increased nearly 50% last year to £9.7 million, with 9,826 reports of ticket fraud made to Action Fraud.

 

Reports in 2024 were at their highest during June and July with 1,067 reports made in June and 887 in July. 

 

Top tips to protect yourself from ticket fraud:

✅  Be wary of unsolicited emails, texts or adverts offering unbelievably good deals on tickets.

✅  Avoid paying for tickets by bank transfer, especially if buying from someone unknown. Using a credit card gives you a better chance of recovering the money if you become a victim of fraud.

✅ Only buy tickets from the venue’s box office, official promoter or agent, or a well-known ticketing website.

✅ Is the vendor a member of STAR? If they are, the company has signed up to their strict governing standards. STAR also offers an approved Alternative Dispute Resolution service to help customers with outstanding complaints. For more information visit star.org.uk/buy_safe 

✅ The password you use for your email account, as well as any other accounts you use to purchase tickets, should be different from all your other passwords. Use three random words to create a strong and memorable password and enable 2-step verification on your accounts (2SV).

 

ℹ️ Find out how to protect yourself from fraud here 👉https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk

 

#NWPCyberSafe #TicketFraud

🚨 Gwyliwch allan am dwyll tocynnau cyn prif ddigwyddiadau a chyngherddau’r haf 🚨

 

Cynyddodd cyfanswm y colledion cyfunol i’r math yma o dwyll bron 50% y llynedd i £9.7 miliwn, gyda 9,826 o adroddiadau o dwyll tocynnau wedi’u gwneud i Action Fraud.

 

Roedd adroddiadau yn 2024 ar eu huchaf yn ystod Mehefin a Gorffennaf gyda 1,067 o adroddiadau wedi’u gwneud ym mis Mehefin ac 887 ym mis Gorffennaf.

 

Dyma gyngor am sut i amddiffyn eich hun rhag twyll tocynnau:

✅ Byddwch yn wyliadwrus o e-byst, negeseuon testun neu hysbysebion digymell sy'n cynnig bargeinion anhygoel o dda ar docynnau.

✅ Osgowch dalu am docynnau drwy drosglwyddiad banc, yn enwedig os yn prynu gan rywun anhysbys. Mae defnyddio cerdyn credyd yn rhoi gwell cyfle i chi adennill yr arian os byddwch yn dioddef twyll.

✅ Prynwch docynnau o swyddfa docynnau'r lleoliad, hyrwyddwr swyddogol neu o wefan docynnau adnabyddus.

✅ A yw'r gwerthwr yn aelod o STAR? Os ydynt, mae'r cwmni wedi ymrwymo i'w safonau llywodraethu llym. Mae STAR hefyd yn cynnig gwasanaeth i gefnogi cwsmeriaid sydd â chwynion heb eu datrys. I gael rhagor o wybodaeth ewch i star.org.uk/buy_safe

✅ Dylai'r cyfrinair a ddefnyddiwch ar gyfer eich cyfrif e-bost, yn ogystal ag unrhyw gyfrifon eraill a ddefnyddiwch i brynu tocynnau, fod yn wahanol i'ch holl gyfrineiriau eraill. Defnyddiwch dri gair ar hap i greu cyfrinair cryf a chofiadwy a galluogwch ddilysu 2 gam ar eich cyfrifon (2SV).

 

ℹ️ Dysgwch fwy am sut i amddiffyn eich hun rhag twyll yma 👉 https://stopthinkfraud.campaign.gov.uk

 

#SeiberDdiogelHGC #TwyllTocynnau 


Reply to this message

Message Sent By
Dewi Owen
(North Wales Police, Cyber Crime Officer, North Wales)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials